Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 13 Tachwedd 2018
Amser:
09.00 -
10.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5068
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
Lee Fisher, Deisebydd Sarah Jones, Deisebydd Nick Clifton, Deisebydd |
Staff y Pwyllgor: |
Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Cafwyd ymddiheuriad gan Janet Finch-Saunders.
Croesawodd y Cadeirydd Leanne Wood i'r Pwyllgor a diolchodd i Rhun ap Iorwerth am ei waith yn ystod ei gyfnod fel aelod.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Weinidog yr Amgylchedd i ofyn iddi ymateb i'r sylwadau ychwanegol a wnaed gan y deisebwyr cyn penderfynu a ddylid trefnu i gasglu tystiolaeth.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i:
· ofyn am eu hymateb i'r ddeiseb a'r sylwadau a gafwyd gan y deisebwyr; ac i
· ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gynigion yn ymwneud â newid gwasanaethau yn Ysbyty Tywysog Phillip.
Gofynnodd yr Aelodau hefyd am bapur yn nodi’r deisebau hynny a gafodd dros 5,000 o lofnodion ers Mawrth 2017
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn:
· a allai ei swyddogion gyfarfod â'r deisebydd i drafod y mater a godwyd yn y ddeiseb yn fwy manwl; ac
· a oedd wedi ystyried sicrhau bod arian ar gael i fyfyrwyr o Gymru sy’n dymuno astudio yn unrhyw un o’r 100 prifysgol gorau yn y byd.
Gofynnodd y Pwyllgor hefyd a yw'r un trefniadau'n berthnasol i fyfyrwyr yn Lloegr ac yn yr Alban.
Trafododd y Pwyllgor sylwadau ychwanegol gan y deisebydd ynghyd â llythyr ategol gan gwmni cludiant lleol a chytunodd i:
· roi rhagor o amser i Valero ac eraill anfon sylwadau, cyn anfon y rhain ymlaen at Lywodraeth Cymru a gofyn am ymateb; ac
· ysgrifennu at Gyngor Sir Penfro i ofyn am ei farn am y mater a godwyd yn y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor sylwadau gan y deisebydd ac, o gofio bod y Pwyllgor eisoes wedi gofyn i'r preswylwyr gael cyfle i roi sylwadau os bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu bwrw ymlaen i werthu'r tir dan sylw a bod y deisebydd wedi bod mewn cysylltiad â swyddogion y Llywodraeth, cytunodd mai ychydig iawn y gallai’r Pwyllgor ei wneud eto. Gan hynny, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd. O gofio bod Llywodraeth Cymru yn datblygu proses o asesu gorsafoedd newydd posibl, a'r ffaith bod Crymlyn yn cael ei asesu fel rhan o’r gwaith hwn, cytunodd yr aelodau i gau'r ddeiseb. Wrth wneud hynny, roeddent am ddiolch i'r deisebydd am ymgyrchu dros y mater hwn.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol yn ymwneud â’r ddeiseb a chytunodd i baratoi adroddiad yn crynhoi'r dystiolaeth sydd wedi dod i law ac i ffurfioli ei argymhellion i Lywodraeth Cymru.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol yn ymwneud â’r ddeiseb a chytunodd i baratoi adroddiad yn crynhoi'r dystiolaeth a oedd wedi dod i law ac i ffurfioli ei argymhellion i Lywodraeth Cymru.
Trafododd y Pwyllgor sylwadau gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn:
· am y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaeth a gafwyd ynghylch y datblygiadau yn Lloegr a’r Alban ers ei gohebiaeth flaenorol ym mis Chwefror 2018;
· am safbwynt pendant Llywodraeth Cymru ynghylch a fyddai’n fuddiol gwahardd masnachu anifeiliaid egsotig ar hyn o bryd; ac
· am restr o'r anifeiliaid y gellid eu diffinio’n anifeiliaid egsotig ac sydd felly'n anaddas i'w cadw fel anifeiliaid anwes.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a chytunodd i:
· ysgrifennu yn ôl i holi ai dyletswydd Llywodraeth Cymru yw sicrhau cydraddoldeb rhwng darpariaeth addysg Gymraeg a darpariaeth addysg cyfrwng Saesneg, o ystyried bod gan y ddwy iaith statws swyddogol yng Nghymru;
· yn y cyfamser, ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg yn gofyn am ei barn am y materion a godwyd yn y ddeiseb.
Cytunodd y Pwyllgor i:
· rhoi'r dystiolaeth y mae wedi'i chasglu mewn perthynas â’r ddeiseb hyd yma i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i gyfrannu at ei ymchwiliad i ‘Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru’; ac i
· gau'r ddeiseb yn awr o ystyried y sylw manwl a gaiff ei roi i’r pwnc gan un o bwyllgorau eraill y Cynulliad.
Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau'n dymuno diolch i'r deisebydd am gyflwyno’r ddeiseb ac am weithio mor ddiwyd gyda'r Pwyllgor i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn.
Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi gweithio fel athro cyflenwi yn y gorffennol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd a chytunodd i:
· ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a yw Llywodraeth Cymru yn dal i ystyried datblygu model gwahanol i gadw rhestr o athrawon cyflenwi – fel ffordd o ymdrin â’r mater yn y sector cyhoeddus - ochr yn ochr â'r gwaith o adolygu'r fframwaith gwasanaeth a reolir ar gyfer gweithwyr asiantaeth; a
· gofyn am ragor o wybodaeth am ysgolion unigol neu awdurdodau lleol sy'n cyflogi athrawon cyflenwi heb ddefnyddio asiantaethau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at bob awdurdod lleol i ofyn am fanylion eu polisïau mewn perthynas â cheisiadau i ohirio derbyn plant sy'n cael eu geni yn yr haf, gan gynnwys:
· nifer y ceisiadau a gafwyd;
· nifer y ceisiadau a gafodd eu derbyn neu eu gwrthod; ac
· os cytunir i ohirio derbyn plentyn, pa flwyddyn ysgol y byddai’r disgybl yn ymuno â hi wedyn.
Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Bu'n ddefnyddiwr gwasanaeth ac yn wirfoddolwr yn Both Paretns Matter; ac
mae'r deisebydd yn gweithio iddo dros dro.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ynghyd â sylwadau eraill gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Ysgrifennydd y Tŷ i ofyn:
· a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried ariannu gwasanaeth cenedlaethol yn uniongyrchol i ddarparu cymorth i ddynion yn benodol;
· am wybodaeth am y modd y bydd y mathau o wasanaethau a gaiff eu comisiynu o dan y trefniant rhanbarthol newydd yn cael eu monitro; ac
· am wybodaeth am sut y caiff methodolegau'r gwasanaethau hynny sy'n cael cyllid cyhoeddus eu hachredu neu eu gwerthuso'n briodol.
Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n adnabod y deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Arweinydd y Tŷ i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ers ei llythyr blaenorol ar 6 Medi, ac am ragor o wybodaeth am yr amserlenni i sicrhau bod data’n ymwneud â’r bwlch cyflog rhwng y ddau ryw gan gyrff cyhoeddus Cymru yn cael eu cyhoeddi mewn fformatau mwy agored a hygyrch.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd ac, oherwydd bod y Pwyllgor Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi rhoi sylw i’r mater penodol hwn yn ystod ei ymchwiliad i'r Amgylchedd Hanesyddol yn ddiweddar, ac oherwydd ei argymhelliad i barhau i adolygu’r mater, cytunodd i gau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd ac, o ystyried bod y Bwrdd Iechyd wedi gwrthod y cais i gau'r Ganolfan a bod y deisebydd yn fodlon ar y sefyllfa, cytunodd i gau'r ddeiseb.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Nick Clifton, Lee Fisher a Sarah Jones.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i geisio trefnu cyfarfod rhwng yr holl randdeiliaid cyn y sesiwn dystiolaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ar 27 Tachwedd.